{Mawl da i Nuwbwrch ym Mon}
1 Hawdd ammawr mvrein wawr maith
2 Tref nvwbwrch Tyrfa iawn obaith
3 Ai glwysdeg deml ai glasdyr
4 ai gwin ai gwerin ai gwyr
5 Ai chwrw ai medd ai chariad
6 Ai dynion rhwydd ai da'n rhad
7 Kornel ddiddos yw Rhossyr
8 Koetgae i warae i wyr
9 [99r] llwybrav'n henw lle brenhinawl
10 llv mawr o bob lle ai mawl
11 Lle diofer i glera
12 lle cywir dyn lle cair da
13 lle rhwydd beirdd lle rhydd byrddav
14 lle ym yw ar y llw mav
15 Pentwr y glod rhod rhod
rhydfyw
16 Pentref dan nef y dawn yw
17 Pantri divfydig digeirdd
18 Pentan bvarth baban beirdd
19 Paement i borthi pvmoes
20 Pell i'm yw i pwyll a'i moes
21 coetty i'r wlad rhag ymadaw
22 cyfnither nef yw'r dref draw
23 cor hylwydd cywir haelion
24 cyfannedd monwent medd Mon
25 cystedlydd nef o'r trefi
26 castell a meddgell i mi
27 Perllan clod y gwirodydd
28 Pair dadeni pob rhi rhydd
29 Parch pob cyffredin Dinas
30 Penrhyn gloyw feddyglyn glas
Da' a Glm'